Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Siân James - Mae'r Rhod yn Troi | Текст песни

MAE’R RHOD YN TROI

Cododd awel gre’ o’r dwyrain
Mae’n wanwyn eto Mhrâg
Daw â’i chri i’n hirlwm ninnau
ddinasyddion Prydain rydd
Y ni sy’n rhydd i gael ein prynu
yn rhydd i werthu’n tir
Ond mi glywn y gri
fod y rhod yn troi.

Ganed ni i fwrdd o friwsion
ar set deledu lliw –
Sgrin wydr rhyngom ni a’n trueni
a gwerthodd Kylie a J.R.
Yn wyston mud yng ngêm y farchnad
ar olwyn fawr y ffair
Ond cawn ganu’n rhydd
Pan fo’r rhod yn troi

Mae awel gre’ dros Foel Faban
a gwylan fry uwchben
Yn cylchu corlan ein dyheadau
ac yn crawcian ‘rhyddid’ nerth ei phen
Mae ’na long tu hwnt i’r llygad
yn hwylio mewn i’r bae
a’r gwynt yn ei hwyliau
Yw’r rhod yn troi
ac mae rhod yn troi
mae’r rhod yn troi...

Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
Нет видео
-