Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Plethyn - Y Sguthan | Текст песни

Pesni.guru - сайт для Гуру

Y Sguthan

Adroddaf i chwi bwt o stori,
Mi gesiaf fynd yn drwstan drosti,
Ond chwaith ni ddwedaf ond y gwir,
Y gwir a saif, dim ond y gwir.

Am ddau lanc ifanc o’r plwy yma
Rhyw noson aethant ffwrdd i hela;
Aeth un â’i wn, a’r llall â’i gi,
Gael bod yn siwr o ddal y pry.

Fe gododd un i fyny ei ben
A gwelodd sguthan ar y pren:
“Wel cydia di yng ngwar y ci
Rhag ofn iddo fynd o ‘ngafael i”.

Wel siarjo’r gwn wnaeth wedi hynny,
a bacio’n ôl gael lle i ‘nelu
tra’r llall yn crynu wrth fôn y pren,
rhag ofn i’r siots fynd oddeutu ei ben.

Pan aeth yr ergyd gyntaf allan,
Yr oedd ei thwrw megis taran,
A rhedeg wnaent i’r lle a’r fan
Rhag ofn i’r ci gael mwy na’i ran.

Fe’i cafwyd gyntaf o geg y ci,
ac adref aethant ffwrdd â hi,
a gofyn wnaent i wraig y tŷ
a wnai ei rhostio am ei phlu.

Pan aeth y wraig ati i’w phluo,
Fe glywai rhywbeth yn ymrwyfo,
A gofyn wnaeth i deulu’r tŷ
A glywent hwy rhyw oglau cry’.

Doedd gwraig y tŷ ddim yn gwybod y cyfan,
Mai wedi trigo oedd y sguthan,
Ac wedi syrthio i fforch y pren,
Nis gallai lai na chodi ei phen.

Roedd wedi mynd yn ô lei phris,
Ac wedi trigo ers pedwar mis,
A’r llanciau gadd eu siomi’n siŵr,
A’u swper hwy oedd brŵes ddŵr.


Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
Нет видео
-